You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Ffioedd a Chymorth Ariannol

Ffioedd a Chymorth Ariannol

Yng Nghymru, mae gennym amrywiaeth o opsiynau talu a chymorth ariannol i ddiwallu eich anghenion unigol ac i'ch helpu i gyflawni eich nodau astudio - p'un a ydych yn astudio modiwl sengl neu'n gweithio tuag at gymhwyster.

Cymorth ariannol

Mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.

Os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu penodol, mae'n bosibl eich bod yn gymwys am Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA) i helpu gyda chostau astudio ychwanegol perthnasol. 

Sut y gallaf dalu am fy astudiaethau?

Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn llawer mwy fforddiadwy a syml nag y byddech yn ei gredu. Mae opsiynau yn cynnwys Benthyciadau Ffioedd Dysgu Rhan Amser (a elwir hefyd yn fenthyciadau myfyriwr), Talu Wrth Fynd drwy gyfrif cyllideb myfyrwyr y Brifysgol Agored a nawdd cyflogwr. Gallwch hefyd dalu ymlaen llaw drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.

Trosglwyddo credydau

Os ydych wedi astudio yn rhywle arall yn y gorffennol ar lefel addysg uwch, mae'n bosibl y byddwn yn gallu trosglwyddo'ch credydau tuag at gymhwyster y Brifysgol Agored - gan leihau nifer y modiwlau y mae angen i chi eu hastudio. 

Faint mae'n ei gostio?

Telir ffioedd fesul modiwl. Os ydych yn astudio am gymhwyster, ni fydd rhaid i chi dalu'r gost gyfan ymlaen llaw. 

Yng Nghymru ein ffi arferol am fodiwl 60 credyd yw £1,312*. Mae nifer y credydau sydd mewn cymhwyster yn amrywio o 120 am dystysgrif, i 360 am radd anrhydedd. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr rhan amser yn astudio 60 credyd y flwyddyn.

*Prisiau 2024/25.

 

Gofynnwch am eich prosbectws

Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw

Gofyn am brosbectws