Mae hon yn rhaglen dysgu o bell Cymru gyfan i chi gael y cymwysterau sydd eu hangen arnoch i astudio’r radd BSc mewn Nyrsio neu’r radd BA mewn Gwaith Cymdeithasol gyda ni.*
Mae’r rhaglen Pont i Bawb yn cael ei chyflwyno gan Goleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) drwy ddysgu ar-lein, sy’n golygu, yn lle mynychu unrhyw ddosbarthiadau wyneb yn wyneb, gallwch astudio o gartref yn unrhyw le yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu y gallwch ddysgu ochr yn ochr â’ch swydd bresennol. Mae wedi’i ariannu’n llawn felly ni fydd yn rhaid ichi dalu unrhyw beth.
Mae'r rhaglen yn dechrau'r wythnos yn dechrau 4 Tachwedd 2024 ac yn dod i ben yr wythnos yn dechrau 3 Mawrth 2025.
Ar ôl gorffen, bydd gennych gymwysterau Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) mewn Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol a/neu Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, gan ddibynnu os ydych yn astudio am un gymhwyster neu’r ddau.
Mae’r cymwysterau hyn yn cyfateb i TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C. I wneud cais ar gyfer y gradd BSc mewn Nyrsio neu’r gradd BA mewn Gwaith Cymdeithasol yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, byddwch naill ai angen y cymwysterau ESW Lefel 2 mewn sgiliau Rhif a Chyfathrebu neu gymwysterau TGAU Saesneg/Cymraeg a Mathemateg gradd C. Dyma'r gofynion mynediad a osodwyd gan y Brifysgol Agored ar gyfer y ddwy radd broffesiynol, a heb y cymwysterau gofynnol ni fyddwch yn gallu gwneud cais i’r naill gwrs gradd na’r llall**.
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru a CAVC wedi datblygu’r rhaglen Pont i Bawb i helpu staff cymorth gofal iechyd i gyflawni eu cymwysterau ESW Lefel 2, a mynd ymlaen i astudio’r radd BSc mewn Nyrsio neu’r radd BA mewn Gwaith Cymdeithasol yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Gall staff cymorth gofal iechyd presennol sy’n awyddus i gwblhau eu cymwysterau ESW Lefel 2 astudio ar gampws coleg Addysg Bellach, ond nawr am y tro cyntaf, mae ESW yn cael ei ddarparu trwy ddysgu o bell rhan amser drwy’r rhaglen Pont i Bawb.
Bydd cwblhau’r radd nyrsio yn y Brifysgol Agored yng Nghymru yn eich gwneud yn gymwys i wneud cais i gofrestru fel nyrs cymwysedig. Ar ôl gorffen y radd gwaith cymdeithasol, gallwch gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr cymdeithasol.
Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw’r arbenigwyr mewn dysgu rhan amser o bell, a nhw yw’r darparwr addysg uwch israddedig rhan amser mwyaf yng Nghymru. Gyda dros 50 mlynedd o brofiad ym maes dysgu ar-lein â chymorth, byddwn yn sicrhau na fyddwch yn teimlo’n rhy ynysig. Byddwch yn cael cymorth rheolaidd gan eich tiwtor, myfyrwyr eraill a’ch tîm cymorth i fyfyrwyr.
Mae’r rhaglen Pont i Bawb, a ddarperir gan CAVC, hefyd yn defnyddio dysgu ar-lein i’ch galluogi i ffitio astudio o amgylch eich bywyd. Bydd yr aseiniadau’n digwydd ar-lein, a bydd gennych diwtor CAVC trwy gydol y rhaglen.
Mae cyrsiau ar-lein rhan amser y Brifysgol Agored yn golygu eich bod yn cael dewis ble a phryd i astudio, gan roi’r cyfle i chi ennill cymhwyster heb roi’r gorau i'r hyn sy’n bwysig i chi. P’un a ydych yn gweithio, yn bod yn rhiant, yn gofalu neu’n syml yn mwynhau amser gyda theulu a ffrindiau, mae ein cyrsiau yn ffitio o amgylch eich bywyd.
Felly, ar ôl i chi gwblhau eich cymwysterau ESW Lefel 2 yn llwyddiannus drwy’r rhaglen Pont i Bawb, gallwch ddal ati drwy ymuno â’r Brifysgol Agored yng Nghymru i astudio’n rhan amser ar gyfer eich gradd. Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru mae ystod o gymorth hefyd ar gael ar gyfer ffioedd a chyllid gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu rhan amser ac opsiynau talu hyblyg. Dysgwch fwy am ffioedd a chyllid yn y Brifysgol Agored yng Nghymru.
E-bostiwch OUReferrals@cavc.ac.uk gyda’ch enw llawn, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a’r cymhwyster ESW lefel 2 yr hoffech astudio ar eu cyfer: Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol, Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol, neu’r ddau.
Cofrestrwch erbyn 18 Hydref 2024. Mae'r rhaglen yn dechrau'r wythnos yn dechrau 4 Tachwedd 2024 ac yn dod i ben yr wythnos yn dechrau 3 Mawrth 2025.
*Yn dilyn cwrs gradd llwyddiannus a meini prawf dethol.
**I wneud cais ar gyfer y radd BSc mewn Nyrsio neu'r radd BA mewn Gwaith Cymdeithasol yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, bydd angen i chi hefyd fod mewn cyflogaeth ac yn cael cefnogaeth eich cyflogwr.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw