Mae adroddiad Baromedr Busnes eleni a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored a Siambr Fasnach Prydain yn dangos bod tri chwarter (75%) arweinwyr busnesau Cymru yn dal i brofi prinder sgiliau, ystadegyn sydd heb newid ers canfyddiadau adroddiad y llynedd.
Mae’r adroddiad blynyddol, sy’n gwirio tymheredd tirlun sgiliau gwledydd Prydain ac sy’n cynnal arolwg o 130 o gyflogwyr Cymru, hefyd yn tynnu sylw at bryder cynyddol am forâl a llesiant staff, gyda bron i dri chwarter (70%) cyflogwyr Cymru yn nodi cynnydd yn y llwyth gwaith ar gyfer staff presennol.
Mae’r adroddiad yn awgrymu bod yn rhaid i gyflogwyr ddibynnu nawr ar y cyfle i ddatblygu eu doniau eu hunain yn ystod cyfnod lle mae bron i draean (29%) o gyflogwyr Cymru wedi cael eu hatal rhag cyflogi staff newydd oherwydd diffyg addasrwydd ymgeiswyr a diffyg ymgeiswyr yn gyffredinol (43%).
Er gwaethaf yr argyfwng sgiliau parhaus, mae adroddiad 2023 y Brifysgol Agored, a gyhoeddwyd am yr ail flwyddyn yn olynol mewn partneriaeth â Siambrau Masnach Prydain, yn nodi gwastadedd sy’n peri pryder yn y diffyg camau a gymerwyd gan gyflogwyr i fynd i’r afael â’r broblem o brinder sgiliau sy’n effeithio’n negyddol ar lesiant staff.
Canfu’r adroddiad fod mwy na thraean (34%) o arweinwyr sefydliadau Cymru hob roi dim cynlluniau ysgrifenedig na chynlluniau blynyddol ar waith i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau cenedlaethol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn sylweddol is na’r llynedd pan gadarnhaodd dros hanner (52%) cyflogwyr Cymru eu bod wedi gweithredu rhyw ffurf ar gynllun ysgrifenedig ynghylch recriwtio, hyfforddi, mynd i’r afael â phrinder sgiliau, materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, neu amrywiaeth a chynhwysiant.
Yng Nghymru, mae’r Brifysgol Agored yn ddiweddar wedi datblygu cyfres o gyrsiau dwyieithog am ddim ar weithio hybrid ar ei safle OpenLearn. Mae’r rhain wedi’u hanelu at sefydliadau a’u staff, ac yn rhoi arweiniad ar sut gall gweithleoedd addasu yn dilyn pandemig y coronafeirws.
Er bod tua dwy ran o bump o fusnesau Cymru wedi cytuno i gynyddu hyfforddiant a buddsoddiad staff yn 2022, mae bron i 2 ym mhob 5 (38%) o sefydliadau yng Nghymru yn dal heb fentrau, rhaglenni sgiliau nac addasiadau i’r gweithle penodol i fynd i’r afael â’r broblem barhaus, flwyddyn yn ddiweddarach.
'Fel mewn blynyddoedd blaenorol, rydyn ni’n gweld cyflogwyr yng Nghymru yn nodi’r prinder sgiliau fel her fawr,' meddai Rhys Griffiths, Rheolwr Cysylltiadau Busnes y Brifysgol Agored yng Nghymru. 'Mae llawer o gyflogwyr a darparwyr addysg yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â’r heriau yma – er enghraifft drwy Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol – i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau, ac mae’r canfyddiadau yma’n dangos bod angen i ni barhau i weithio tuag at ddiwallu anghenion sgiliau Cymru. Mae'r argyfwng costau byw yn golygu bod yn rhaid i gyflogwyr wneud mwy gyda llai, a dyna sy'n gwneud cydweithio mor bwysig.'
'Yn y Brifysgol Agored, rydyn ni wedi cyflwyno cyrsiau gweithio hybrid newydd am ddim i helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a gweithwyr fel ei gilydd i addasu i’r tirlun busnes ôl-covid. Rydyn ni hefyd yn cynnig mwy o gyrsiau anhraddodiadol fel prentisiaethau gradd a microgymwysterau, y gall busnesau eu defnyddio fel rhan o’u strategaeth, yn enwedig lle mae ffocws ar ddysgu yn seiliedig ar waith a chymhwyso sgiliau a gwybodaeth sydd newydd eu hennill.'
Cliciwch yma i lawrlwytho'r adroddiad Baromedr Busnes 2023
Drwy barhau i osgoi buddsoddi a gweithredu rhaglenni a chynlluniau hyfforddi, bydd cyflogwyr Cymru yn parhau i wynebu diffyg allbynnau cynyddol a llai o weithgarwch gan weithwyr fel y cofnodwyd gan dros hanner (51%) yr ymatebwyr.
Mae traean (35%) o arweinwyr sefydliadau wedi gweld cynnydd yn nifer y gweithwyr dros 50 oed yn y tair blynedd diwethaf. Gyda 27% o weithwyr yn gadael y gweithlu i ymddeol, mae’r bygythiad y bydd gweithlu sy’n heneiddio yn ymddeol, heb weithwyr medrus i gymryd eu lle, yn bryder allweddol.
Mae’n amlwg o adroddiad Baromedr Busnes eleni nad yw’r prinder sgiliau wedi gwella, er gwaethaf ymdrechion presennol sefydliadau ar draws y DU. Nid ydym wedi ei ddatrys eto. Ond yr hyn sy’n peri mwy fyth o bryder yw nad yw sefydliadau’n buddsoddi mewn cronfeydd talent penodol, gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Os bydd sefydliadau'n parhau i anwybyddu'r gweithwyr hyn, maent mewn perygl o golli allan ar dalent a dyfnhau'r bwlch sgiliau hyd yn oed ymhellach. Gallai fod cyfle mawr i gyflogwyr yma os bydd talent gudd yn cael hwb.
Barwnes Martha Lane Fox CBE
Canghellor y Brifysgol Agored a Llywydd Siambrau Masnach Prydain
Mae’r adroddiad diweddaraf yn nodi’r cyfle sydd gan gyflogwyr i ddatblygu eu doniau eu hunain ymhlith eu gweithwyr presennol fel yr allwedd i’r heriau parhaus sy’n wynebu Cymru o ran recriwtio a chadw staff. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod cyflogwyr eisoes yn edrych ar gyrsiau byr (88%) a mentora a chymorth (39%) i uwchsgilio eu gweithlu yn ystod y deuddeg mis nesaf.
Drwy weithredu’r mentrau gweithle, y rhaglenni sgiliau a/neu’r addasiadau gweithle yma, gall cyflogwyr ddefnyddio’r sgiliau presennol sydd gan eu gweithlu i ddatrys heriau prinder sgiliau, rhwystrau cyflogi, amrywiaeth oedran, boddhad yn y gweithle a llesiant staff mewn un tro.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored heddiw yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ieithoedd tramor modern yn cael eu cynnig fel ail bwnc newydd ar ei thystysgrif ôl-raddedig mewn addysg (TAR), a ddarperir gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891