Dyma gyfarfod Billie, a gymerodd ran yn rhaglen GROW yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Mae GROW – Cyfleoedd Profiad Gwaith i Raddedigion – yn cynnig cymorth i raddedigion Y Brifysgol Agored yng Nghymru sydd wedi graddio ers 2019 ac sy'n ddi-waith neu heb ddigon o waith. Mae GROW yn helpu graddedigion i baratoi ar gyfer eu camau nesaf, rheoli unrhyw heriau unigol a wynebir ganddynt ac ystyried eu huchelgeisiau. Mae'r rhaglen hefyd yn trefnu lleoliadau profiad gwaith am dâl.
‘Cwblheais radd BA Anrhydedd yn y Dyniaethau (yn arbenigo mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol lle graddiais o fy ystafell wely fy hun ym mis Hydref 2021,’ meddai Billie. ‘Bu'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn awyrgylch cefnogol a chydnaws i wella fy ngallu i ysgrifennu mewn ffordd fwy creadigol ac arddullaidd’.
‘Cymerodd COVID-19 yr hyder a oedd gen i yn fy ngwaith a'r ysgogiadau yr oeddwn yn teimlo eu bod yn achubiaeth i mi. Roedd angen creadigrwydd arnynt i ffynnu ac i allu symud o gwmpas yn agored er mwyn canfod y cyfleoedd yr oeddwn yn dyheu amdanynt. Roeddwn yn teimlo bod fy niffyg profiad fy hun yn fy nal i'n ôl ac fy mod yn sownd mewn cylch gwenwynig o gael fy ngwrthod oherwydd amgylchiadau lliniarol neu oherwydd lleoliad’.
Cwblhaodd Billie leoliad gwaith o bell gyda Parthian Books, a hynny fel cynorthwyydd golygyddol. Bu'n siarad ag awduron am eu gwaith, yn creu postiadau blog ac yn gweithio ar optimeiddio ar gyfer peiriannau chwilio. Hefyd, datblygodd sgiliau ym meysydd newyddiaduraeth, rheoli'r cyfryngau cymdeithasol a chynllunio digwyddiadau.
Cyfeiriwyd Billie at GROW drwy raglen GO Wales Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Drwy gymryd rhan yn GO Wales y daeth i wybod bod ganddi ddyspracsia. Er iddi ddarganfod hyn yn ddiweddarach mewn bywyd, mae'r diagnosis wedi'i helpu i gael rhagor o gymorth.
‘Drwy'r ddwy raglen, rwyf wedi darganfod mai gallu gofyn cwestiynau ac achub ar gyfleoedd yn syth sy'n gweithio orau er mwyn cael y profiad gorau o'r lleoliadau a gaiff eu cynnig i chi,’ dywed Billie. ‘Roeddwn i'n swil dros ben ar y dechrau, yn ansicr pa nodweddion unigryw oedd gen i i'w cynnig i gyflogwyr, a byddwn yn petruso mewn cyfweliad gan gredu y byddwn i'n methu cyn i mi agor fy ngheg, hyd yn oed. Drwy GROW a GO Wales, rwyf wedi llwyddo i ffynnu yn fy ngalluoedd a gweithio ar fy anghenion datblygu’.
Mae'r lleoliad wedi galluogi Billie i wella ei sgiliau a'i CV, yn ogystal â rhoi cipolwg ar yr hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. Mae hi bellach yn gwneud cais am swyddi ac mae sawl cyfweliad ar y gweill. Mae hi hefyd yn ystyried cyhoeddi ei llyfrau ei hun, derbyn gwaith llawrydd ac astudio i ddod yn athrawes. Ar ben hyn oll, mae hi hefyd yn bwriadu dysgu gyrru.
‘‘Cefais gynnig mwy o gymorth gan GROW nag yr oeddwn yn teimlo fy mod yn ei haeddu ond roeddwn yn ei groesawu. Y rhan fwyaf defnyddiol oedd y cymorth ychwanegol o ran awgrymiadau am swyddi a siarad â'r cyflogwr ar fy rhan. Gwnaeth hyn i mi deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus o wybod bod fy lles yn bwysig iddynt’.’.
Billie
‘Rwy'n credu mai'r darn gorau o gyngor y gallaf ei gynnig i raddedigion eraill sy'n chwilio am waith yw y dylid mynd amdani,’ meddai Billie. ‘Os oes gennych syniad ynghylch pa faes gwaith yr hoffech ei wneud, ewch ati i greu rhestr o ofynion, meddyliwch am y lleoliad a'r gallu i addasu i weithio o bell ac a yw'r math hwn o waith yn cynnwys sgìl y gellir ei hyfforddi, lle y gall fod angen ennill cymhwyster. Ewch amdani!’
Os hoffech gael gwybod mwy am y cymorth a gynigir gan GROW a'r lleoliadau profiad gwaith sydd ar gael, anfonwch e-bost i graduates-wales@open.ac.uk
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw
Mae cyfres galonogol PA/BBC ‘A Special School’ yn dychwelyd i BBC One Wales ac iPlayer ar ddydd Llun 2 Rhagfyr am 8pm.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifysgol Agored heddiw yn dangos bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda democratiaeth ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffurfiol.
Rhodri Davies
Uwch Reolwr Cyfathrebu
Ffôn: 029 21 674 532
Am ymholiadau cyfryngau cyffredinol Y Brifysgol Agored, cysylltwch â
swyddfa'r wasg
Ffôn: 01908 654316 /
Y tu allan i oriau swyddfa: 07901 515891