Mae astudio gyda'r Brifysgol Agored yn rhoi mwy na chymhwyster i chi. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio fel eich bod yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a rhinweddau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
Nid yw adeiladu eich cyflogadwyedd yn ymwneud â chael swydd yn unig. Mae'n ymwneud â meithrin eich hyder, sgiliau a rhinweddau i gyflawni'ch potensial. Gall hefyd eich helpu i gyflawni eich nodau personol, addysgol a’ch nodau gyrfa – sut bynnag yr ydych yn gweld hynny a beth bynnag fo'ch cefndir.
Gallwn eich helpu gyda hyn.
Os ydych yn fyfyriwr gyda'r Brifysgol Agored sy'n astudio yng Nghymru, gallech wneud cais am gymorth gan GO Wales.
Byddwch yn cael hyfforddiant a mentora un i un pwrpasol gan gynghorydd cyflogadwyedd a all eich helpu gyda:
Gallwn hefyd eich helpu gyda chostau fel teithio i weithle, neu unrhyw gostau eraill a allai fod gennych.
Mae Go Wales wedi bod yn adnodd amhrisiadwy i mi! Nid yn unig y mae wedi fy helpu i nodi ble mae fy nghryfderau a pha feysydd y gallaf eu gwella, ond mae hefyd wedi fy helpu i sicrhau interniaeth gyffrous.
myfyriwr Go Wales
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd (CES) y Brifysgol Agored yma i'ch cefnogi o'ch modiwl cyntaf hyd at dair blynedd ar ôl astudio.
Rydym bob amser yn ceisio eich helpu i gysylltu â chyflogwyr. Gydag interniaeth rithwir, byddwch yn gweithio ar-lein o gartref yn yr un ffordd ag y byddwch yn astudio. Yn union fel interniaeth wedi'i lleoli ar y safle, byddwch yn gweithio ar brosiectau a thasgau a roddir i chi gan gyflogwr ac yn cael sesiynau dal i fyny a chymorth rheolaidd ganddynt.
Cyflwyno interniaethau rhithwir i fyfyrwyr
Os ydych chi'n gyflogwr sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol, siaradwch â ni i weld sut y gallai myfyriwr neu raddedig o'r Brifysgol Agored helpu eich sefydliad. Cysylltwch â ni ar gowales@open.ac.uk.
Rydyn ni'n un o nifer o brifysgolion sy'n gweithio ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd i helpu cyflogwyr lleol i ddod o hyd i raddedigion. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Venture Graddedigion
)gallwch>Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw