You are here

  1. Hafan
  2. Astudio
  3. Dewch i gwrdd â'n myfyrwyr

Dewch i gwrdd â'n myfyrwyr

Mae ein myfyrwyr yn dod o bob cefndir. Nid ydym yn brifysgol sy'n derbyn un math o fyfyriwr yn unig, credwn fod pob dysgwr yn unigryw.

Mae gan ein myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr ledled Cymru eu cefndiroedd, nodau, a straeon eu hunain i'w rhannu, ac rydym yma i'w cefnogi ar hyd y daith. Cewch air gan rai o'n myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr isod wrth iddynt rannu eu taith gyda’r Brifysgol Agored.

Os ydych wedi eich ysbrydoli gan straeon rhyfeddol ein myfyrwyr, edrychwch ar ein hystod o gyrsiau. Archwiliwch yr hyn sy’n bosib pan rydych yn dysgu o amgylch eich bywyd gyda’r Brifysgol Agored.

Gofynnwch am eich prosbectws

Hayley o Gwmbran

Ar ôl blynyddoedd o or-bryder dwys, cafodd Hayley ei brawychu gan y syniad o fynd i'r brifysgol.

Fel mam i ddau o blant, gallai gydbwyso ei hastudiaethau ac amser teulu gyda'r Brifysgol Agored. Yn 2022, graddiodd Hayley gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Hanes - rhywbeth nad oedd hi byth yn meddwl oedd yn bosibl.

Llŷr o Sir Benfro

Gadawodd Llŷr yr ysgol yn 2011 ar ôl gorffen ei lefel uwch. Ar ôl gweithio mewn cwmni cyfrifeg am chwe blynedd, roedd am fynd yn ôl i fyd addysg.

Trwy astudio yn y Brifysgol Agored, ail-daniodd ei gariad at ieithoedd a graddiodd gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg.

Michael o Rhydywaun

Dilynodd Michael, sy’n Gymro Cymraeg, ei gariad at fioleg, ac astudiodd i fod yn athro gwyddoniaeth gyda’r Brifysgol Agored.

Ar ôl cwblhau ei TAR, llwyddodd i aros ymlaen yn yr ysgol uwchradd lle cafodd ei gyflogi fel technegydd gwyddoniaeth, ac mae bellach yn gweithio fel athro cymwys.