Mae gennym amrywiaeth enfawr o gyfleoedd dysgu ar-lein am ddim i'ch helpu i feithrin eich sgiliau neu ddarganfod angerdd newydd. Porwch drwy gyrsiau ar-lein, fideos, podlediadau a mwy, am ddim.
Mae popeth am ddim, ble bynnag y byddwch – y cyfan sydd ei angen arnoch yw cysylltiad â'r we.
Mae OpenLearn Cymru yn cynnig amrywiaeth o adnoddau am ddim sy'n berthnasol i Gymru ac i fywyd yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau, fideos, profiadau rhyngweithiol ac erthyglau ar-lein. Os ydych am ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg, gallwch hefyd archwilio OpenLearn Wales.
Llwyfan dysgu am ddim yw OpenLearn , sy'n cynnwys mwy na 1,000 o gyrsiau, deunydd rhyngweithiol, fideos, a gemau am ddim. Mae popeth am ddim i'w astudio, ond byddwch yn cael y gorau o OpenLearn drwy greu cyfrif (sydd hefyd am ddim). Drwy greu cyfrif, byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth o nodweddion nad ydynt ar gael i westeion, fel cofrestru ar gyrsiau am ddim ac olrhain eich cynnydd.
Ymunwch â miliynau o bobl eraill sy'n dysgu am ddim gyda'r Brifysgol Agored ar YouTube. Gallwch ddewis rhwng fideos byr neu raglenni dogfen manwl ar amrywiaeth eang o bynciau. Ewch i'n sianel YouTube OpenLearn a thanysgrifiwch i gael gwybod am fideos newydd bob wythnos.
Mae gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru hefyd restr chwarae YouTube lle y gallwch ddod o hyd i fideos am ein gwaith, ein digwyddiadau a mwy.
Chwiliwch am ‘The Open University’ ar eich hoff ddarparwr podlediadau neu porwch drwy ein harchif podlediadau.
Gallwch ddod o hyd i'n hamrywiaeth eang o eLyfrau am ddim ar Google Play, Amazon Kindle neu Apple Books – chwiliwch am ‘The Open University’.
Os hoffech gael gwybod mwy am bwnc gyda'n hymchwilwyr arbennig, ewch i ORO: un o'r casgliadau ymchwil prifysgol mwyaf yn y DU, gyda dros 15,000 o gyhoeddiadau ymchwil ar gael ar-lein. Ewch i ORO i gael rhagor o wybodaeth.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw