Croeso i Bartneriaeth AGA Y Brifysgol Agored. Gyda'n gilydd rydym yn cyflwyno Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) Cymru yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Rydym wedi cael ein hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg i ddarparu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ledled Cymru. Mae angen i unrhyw un sy'n dymuno bod yn athro ennill gradd neu TAR sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth i'n hysgolion partner presennol, i ddarpar ysgolion partner ac i randdeiliaid ehangach. Bydd y canllawiau manwl ar y llwybrau cyflogedig a rhan-amser hefyd yn ddefnyddiol i ddarpar fyfyrwyr ac i ysgolion sy'n ystyried cymeradwyo neu leoli ein darpar athrawon.
Mae Partneriaeth AGA Y Brifysgol Agored yn cynnwys Y Brifysgol Agored a'r Brifysgol Agored yng Nghymru a'n rhwydwaith helaeth o ysgolion partner, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Mae ein darpar athrawon yn ganolog i'r bartneriaeth hon.
Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddarparu profiad cyfoethog i'n darpar athrawon, sy'n hogi eu sgiliau a'u gwybodaeth i ddod yn addysgwyr rhagorol. Mae Partneriaeth AGA Y Brifysgol Agored yn rhoi sail gadarn i’n darpar athrawon ar lefel academaidd ac ymarferol. Bydd y rhaglen yn caniatáu i'n myfyrwyr ennill SAC ar gyfer naill ai lefel ysgol gynradd neu uwchradd a gellir ei hastudio unrhyw le yng Nghymru yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Mae ein rhaglen ôl-raddedig dwy flynedd yn darparu amser ar gyfer myfyrio, hunanwerthuso a datblygiad proffesiynol - elfennau allweddol o daith y darpar athro.
Rydym yn cynnig llwybr cyflogedig (yn seiliedig ar gyflogaeth) a rhan-amser ar lefel gynradd ac uwchradd.
Mae newidiadau newydd i gyfraniad grant cyflog Llywodraeth Cymru yn golygu nad yw ysgolion bellach yn talu cyflogau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n astudio i ddod yn athrawon uwchradd. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.
Bydd myfyrwyr yn astudio o gwmpas dyletswyddau ysgol presennol fel rhan o'u cyflogaeth llawn-amser mewn ysgol gynradd neu uwchradd.
Mae'r llwybr hwn yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd wrth i fyfyrwyr gael profiad addysgu rhan-amser mewn ysgol gynradd neu uwchradd, wrth weithio o amgylch swydd ran-amser neu ymrwymiadau bywyd eraill.
Popeth sydd angen i chi ei wybod am y TAR. Clywch gan ein hysgolion, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr am eu profiadau a’u taith i addysgu.
Mae cydweithrediad agos ag ysgolion, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn allweddol. Byddwch yn rhan o'n rhwydwaith gyfoethog ledled Cymru.
Dysgwch fwy am y gweithgareddau ymchwil helaeth sy'n cael ei wneud gan ysgolion partner a chydweithwyr academaidd.
Yma bydd ysgolion partner yn dod o hyd i ganllawiau, rhestrau gwirio, ffurflenni a chyfleoedd datblygiad proffesiynol.
Os ydych chi'n ddarpar ymgeisydd a hoffech chi gael gwybod mwy am raglen TAR Cymru, neu os hoffech chi wneud cais, cliciwch yma.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw