You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Cyflogwyr
  4. Medru

Medru

Sefydlwyd Medru i roi hyfforddiant i staff sy’n gweithio yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac i gefnogi busnesau lleol yn eu hadferiad o bandemig y coronafeirws ac i ymateb i newidiadau mewn technoleg. Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i roi sgiliau trosglwyddadwy ac ystwyth i’r gweithlu, a all helpu twf economaidd yn yr ardal.

Cefndir

Logo Medru

Yng ngham cyntaf y rhaglen, byddwn yn gweithio i uwchsgilio ac ailsgilio gweithwyr mewn grŵp o fusnesau lleol. Bydd yr hyfforddiant fesul cam ac yn hyblyg, gan ganiatáu i bobl astudio wrth eu pwysau a phan fo’n gyfleus iddynt – ac ni fydd yn seiliedig ar gymwysterau academaidd blaenorol staff. Caiff yr hyfforddiant ei ddatblygu mewn partneriaeth â busnesau, yn seiliedig ar eu hamcanion.

Defnyddir y cam cyntaf hwn i brofi'r cysyniad a llywio camau nesaf y rhaglen. Yr uchelgais yw i Medru gynnig hyfforddiant gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg (STEM) ar draws gogledd-ddwyrain Cymru gyfan, gan gefnogi busnesau a phobl yn eu dyheadau, a chreu llif o dalent ar gyfer y dyfodol. 

Pwy sydd tu ôl i Medru?

          

Mae Medru yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor, Coleg Cambria a’r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Sut?

Rydym am i Medru gefnogi diwydiant a gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Yn ystod y cam cyntaf, byddwn yn archwilio'r potensial ar gyfer y rhaglen a gweld sut y gellir datblygu hyn yn fodel cyflawni ar gyfer sgiliau STEM yn yr ardal. Trwy ein partneriaethau gyda busnesau lleol, byddwn yn siapio cyfnodau'r rhaglen yn y dyfodol.

Amserlen

Cwblhawyd ail gam Medru ym mis Ionawr 2024, ac rydym yn cynllunio cam tri ar hyn o bryd.

Ymwelwch â gwefan Medru