You are here

  1. Hafan
  2. Ein gwaith
  3. Partneriaeth AGA Y Brifysgol Agored
  4. Y Llais

Y Llais

 

Emma Tate - TAR Cyflogedig

Sioned Roberts - TAR Cyflogedig

Addysg mewn Byd sy'n Newid – myfyrdodau o Gynhadledd BERA/WERA 2024

Gan Nerys Defis, Tiwtor Cwricwlwm y Brifysgol Agored, Medi 2024

Poster ar gyfer cynhadledd BERA a chyfarfod ffocws WERA

Mae trefnwyr amserlenni yn amhrisiadwy ac i'r rhai ohonom a fynychodd gynhadledd BERA-WERA 2024 roedd campwaith trefnu’r amserlen yn un i’w hedmygu. Dyma gynhadledd a barodd bum niwrnod, gyda dros 470 o sesiynau, a thros 2,000 o gynrychiolwyr yn bresennol o bob cwr o'r byd.

Cynhaliwyd y gynhadledd ym Mhrifysgol Manceinion rhwng 8 ac 12 Medi. Roedd yn achlysur nodedig eleni am fod BERA, sef Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (neu’r British Educational Research Association), yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed. Trwy gydweithio â WERA (Cymdeithas Ymchwil Addysgol y Byd neu’r World Education Research Association), llwyddodd y trefnwyr i gynnal cynhadledd wirioneddol ryngwladol gan arddangos ystod eang o ymchwil arloesol a hir sefydlog.

Fel un o’r cynadleddwyr a chyflwynydd yng Nghynhadledd BERA 2024, roedd hi'n anodd dewis a dethol o'r fwydlen helaeth o sesiynau oedd ar gael. I helpu gyda’r dewis penderfynais chwilio am sesiynau oedd yn cysylltu gydag elfennau o dair thema.

Yn gyntaf, fel Tiwtor Cwricwlwm gyda rhaglen TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru, edrychais am sesiynau’n cysylltu ag Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Wrth wrando ar gyflwyniadau o wahanol wledydd gan gynnwys Ghana, Kuwait a Lloegr, datblygodd fy ngwerthfawrogiad o’r sefyllfa unigryw sydd gennym yng Nghymru: o ran cyd-ddatblygiad ein cwricwlwm a’n model AGA cydweithredol. Roedd nifer o gyflwynwyr o Gymru’n bresennol ac roedd hi’n wych eu clywed yn cyflwyno datblygiadau addysgol Cymru i’r gynulleidfa ryngwladol oedd yno. Parhau mae’r gwaith o ddiwygio addysg yng Nghymru, ond mae’n faes sy’n haeddu sylw rhyngwladol yn ôl Anna Bryant (Prifysgol MET Caerdydd) a Trevor Mutton (Prifysgol Rhydychen).

Yr ail thema a ddilynais oedd lles - thema oedd yn cysylltu gyda fy nghyflwyniad a’m gwaith ymchwil i agweddau teuluoedd ar les plant a’u defnydd o dechnoleg. O fewn y gwahanol sesiynau gwrandawais arnynt, trafodwyd lles disgyblion, staff ac athrawon dan hyfforddiant. Roedd y rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu’r gwahanol grwpiau hyn yn amrywio ond, yn ddiddorol, cyflwynwyd negeseuon cyson ynghylch pwysigrwydd gwrando ac ystyried lles holistaidd pob un o’r tair carfan.

Cynulleidfa yn wynebu llwyfan gyda chyflwyniad

Yn drydydd, dilynais sesiynau a oedd yn gysylltiedig â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Roedd hon yn thema allweddol o fewn y gynhadledd ac ystyriodd un o brif gyflwynwyr yr wythnos, yr Athro Tim Soutphommmasane, Prif Swyddog Amrywiaeth Prifysgol Rhydychen, ffyrdd o gryfhau ein harferion er mwyn sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Ymdriniodd â rhai pynciau anodd, yn enwedig yn y sesiwn holi ac ateb, ond wrth iddo gyflwyno 10 argymhelliad i ddatblygu arferion er budd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, pwysleisiodd manteision hyn i’r gymdeithas gyfan. Er enghraifft, gall canolbwyntio ar unigolion a'u profiadau yn y byd go-iawn apelio at yr ymdeimlad o barchu eraill a sicrhau tegwch i bawb. Mae bod yn gynhwysol yn rhan o hyn, megis osgoi’r syniad o ‘ni’ a ‘nhw’ a gweithio tuag at y nod o adeiladu "diwylliant o chwilfrydedd a haelioni - nid beirniadaeth".

Wrth deithio adref i orllewin Cymru ar ddiwedd yr wythnos roedd cymaint o feddyliau i'w prosesu. Fodd bynnag, wrth grynhoi’r amrywiaeth eang o sesiynau gyda chyflwynwyr o bob rhan o'r byd, yr hyn oedd yn aros yn y cof oedd yr elfen ddynol - dyma sy’n greiddiol i addysgu. Er mwyn medru cefnogi lles unigolion o fewn y byd addysg, neu er mwyn sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, rhaid i ni ddysgu gwrando, cydnabod rhwystrau a gweithredu newid mewn ffordd gadarnhaol. Yn yr un modd, roedd cyflwynwyr a oedd yn rhannu gwybodaeth am bolisïau neu gwricwla yn aml yn canfod mai’r ffordd y cai’r rhain eu gweithredu gan bobl oedd yr allwedd i’w llwyddiant (neu beidio).

O bryd i’w gilydd bydd data ac asesiadau’n gyrru ein harferion addysgol - rhaid i ni felly herio ein hunain i beidio ag anwybyddu'r effaith ddynol, yr effaith gymdeithasol a’r effaith bersonol a gawn fel addysgwyr.

 

Blogiau o'r gorffennol

Wedi'i wreiddio mewn deialog: Meithrin Sgyrsiau Proffesiynol

Gan Angela Thomas, Tiwtor Practis, Medi 2024

Rwy'n ysgrifennu'r blog hwn gyda golygfa o'm gardd sydd wedi'i drin yn dda ar ddiwedd haf cynhyrchiol. Mae'r hydrangea yn dal i fod mewn blodau llawn, y goeden afalau yn llewyrchus, a'r trilliwiau yn amharod i ollwng eu petalau porffor, melfedaidd. Mae'n hynod foddhaol i'w arsylwi ac mae'n ysgogi cyfnod o fyfyrio ar y tymor aeth heibio a'r un newydd o'n blaenau...darllenwch fwy

Rhai meddyliau ar brosiect ymchwil technoleg fideo’r bartneriaeth

Gan Trudi Rees-Davies, Tiwtor Ymarfer (Ysgol Gynradd Pen Rhos, Llanelli) Mehefin 2024.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae fy rolau gyda Phartneriaeth y Brifysgol Agored wedi amrywio o Fentor a Chydlynydd Ysgolion i'm swydd bresennol fel Tiwtor Ymarfer, rôl dwi wedi bod wrth fy modd yn ei chyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r rôl hon wedi bod yn arbennig o werth chweil gan ei bod yn caniatáu imi weld twf a datblygiad disgyblion ifanc ac athrawon dan hyfforddiant...darllenwch fwy